Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

Dydd Mawrth 4 Ebrill 2017


Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: Dyfodol Gwasanaethau Treftadaeth Cymru – partneriaeth strategol newydd a dyfodol Cadw (45 munud)

·         Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Dyfodol Cyflenwi Gwaith Ieuenctid yng Nghymru (45 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ac Iechyd y Cyhoedd: Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) – flwyddyn yn ddiweddarach (45 munud)

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud):

o   Gorchymyn Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2017

o   Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2017

·         Dadl: Cyfnod 4 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) (15 munud)

·         Dadl: Mynd i'r Afael â Thlodi Tanwydd drwy’r Rhaglen Cartrefi Clyd (60 munud)

 

Dydd Mercher 5 Ebrill 2017

 Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig (45 munud)

·         Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (45 munud)

Busnes y Cynulliad

·         Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)

·         Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12 mewn perthynas â Chwestiynau Amserol (5 munud)

·         Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)

·         Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar Benodiadau Gweinidogion: Gwrandawiadau cyn penodi gan Bwyllgorau'r Cynulliad (30 munud)

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Dadl Fer – Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) (30 munud)


Toriad: Dydd Llun 10 Ebrill 2017 - Dydd Llun 1 Mai 2017

Dydd Mawrth 2 Mai 2017

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)



Dydd Mercher 3 Mai 2017

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)

Busnes y Cynulliad

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)

·         Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)

·         Dadl ar ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'r Grant Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a Phlant o Leiafrifoedd Ethnig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)

·         Dadl Fer (30 munud)

 

Dydd Mawrth 9 Mai 2017

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Carchardai a Llysoedd (15 munud)

·         Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil yr Undebau Llafur (Cymru) (60 munud)

·         Cynnig i gymeradwyo’r penderfyniad ariannol yn ymwneud â Bil yr Undebau Llafur (Cymru) (5 munud)

·         Dadl Cyfnod 3 ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (180 munud)

 

Dydd Mercher 10 Mai 2017

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

·         Datganiadau 90 eiliad  (5 munud)

·         Dadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Y Darlun Mawr: Sylwadau cychwynnol y Pwyllgor ar ddarlledu yng Nghymru (60 munud)

·         Amser a ddyrannwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Dadl fer (30 munud)